Ymwybyddiaeth
About Lesson

Awgrymiadau da

Yma cei di awgrymiadau da ynghylch sut i weithio yn Gymraeg gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg. O sut i newid rhyngwyneb iaith, i ddysgu mwy ynghylch sut i greu cwis dwyieithog. Mae yna ‘awgrym da’ i dy helpu di.

Nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am gynnwys adnoddau a gwefannau allanol.

Microsoft Forms icon

Hollti'r sgrin

Mae hollti’r sgrin yn caniatáu ichi ddangos dwy ffenestr fyw ar y sgrin ar yr un pryd. Gellid dangos adnodd sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr i wneud cyflwyniad dwyieithog effeithiol a syml. Mae hollti’r sgrin yn ffordd syml o greu cyflwyniad dwyieithog os nad ydych chi'n hyderus i siarad Cymraeg.



video

Microsoft Forms icon

Teipio llais a'r offeryn cyfieithu

Mae'r offeryn arddweud yn caniatáu ichi ysgrifennu cynnwys naill ai yn Microsoft Word neu Google Docs. Drwy gyfuno teipio llais â'r offeryn cyfieithu gallwch greu dogfennau dwyieithog yn gyflym. Bydd angen dyfais gyda meicroffon a chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy arnoch. Bydd yn gweithio ar ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur personol hefyd.



video

Microsoft Forms icon

Creu ffurflenni dwyieithog yn Microsoft

Wyt ti wedi meddwl am greu cwis dwyieithog? Un ffurflen ar gyfer pawb, gyda’r dysgwr yn gallu darllen ac ysgrifennu yn ei iaith gyntaf? Syniad gwych!

Mae defnyddio’r Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr yn golygu dy fod yn hybu dwyieithrwydd.

Os nad wyt ti’n hyderus i ysgrifennu'n Gymraeg, defnyddia Bing Translator fel canllaw.

Dyma fideo i ddangos i ti sut i fynd ati.


video

Microsoft PowerPoint icon

Creu cyflwyniad PowerPoint dwyieithog

Hoffet ti wybod sut i greu cyflwyniad dwyieithog yn ‘Powerpoint’ gyda’r Gymraeg a’r Saesneg mewn un ddogfen gyda’i gilydd? Mae’n ffordd dda o hyrwyddo dwyieithrwydd i dy gynulleidfa. Gwylia’r fideo Canllaw Cyflym isod i weld sut i fynd ati. Mae’n hawdd!


video

Microsoft PowerPoint icon

Is-deitlau Cymraeg ar gyflwyniad PowerPoint

Wyt ti erioed wedi gwneud cyflwyniad PowerPoint i gynulleidfa ddwyieithog ar-lein neu wyneb yn wyneb?

Os wyt ti'n cyflwyno yn Saesneg, beth am ddefnyddio is-deitlau Cymraeg wrth i ti gyflwyno?

Darganfod sut i newid yr iaith is-deitlau yn PowerPoint ar wefan allanol Microsoft.

video

YouTube icon

Newid iaith isdeitlau yn YouTube

Wyt ti’n defnyddio YouTube wrth ddysgu neu addysgu? Os yw perchennog fideo wedi darparu isdeitlau yn Gymraeg ar YouTube, mae’n hawdd dod o hyd i nhw.

Cer at y symbol gosodiadau ar waelod y sgrin a dewis ‘Subtitles/CC’. Os oes yna isdeitlau Cymraeg wedi’u darparu, bydd modd i ti newid yr iaith i ‘Cymraeg’.

Mae modd cael is-deitlau Cymraeg sydd wedi'u cynhyrchu'n awtomatig ar fideos mewn ieithoedd eraill hefyd. Yn yr un ffordd â Microsoft Bing, nid yw'r cyfieithiad wastad yn berffaith ond gall fod yn gymorth i Gymreigio profiad dysgwyr pan yn dangos fideo Saesneg. Mae’r isdeitlau awtomatig Cymraeg ar gael ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith (desktop) yn unig.

Dysgu mwy trwy wylio fideo allanol Saesneg ar YouTube:

video

Hwb icon

Creu rhestr chwarae dwyieithog ar Hwb

Mae gan bob Coleg yng Nghymru fewngofnodi deuol i’w galluogi i gael mynediad i Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru. Yn gyntaf, rhaid mewngofnodi i fewnrwyd dy Goleg. Wedyn dod o hyd i Hwb. Clicia ar yr eicon ac wedyn bydd y wefan yn agor a byddi di wedi mewngofnodi'n awtomatig.

Mae modd creu rhestr chwarae (playlist) dwyieithog yn hwylus ar Hwb. Dyma gyfarwyddiadau defnyddiol ar y wefan i dy helpu i wneud hynny.