Ymwybyddiaeth
About Lesson

Canllaw Cyflym i'r Prentis-Iaith

Beth yw Prentis-Iaith? Cwrs sydd wedi cael ei ddatblygu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu Cymraeg.

Yn wreiddiol, cafodd ei greu ar gyfer darparwyr addysg yn y gweithle, ond mae’n adnodd gwych i bawb, o bob lefel gallu iaith. Galli di wneud y cwrs dy hun, neu gyda myfyrwyr neu brentisiaid yn ogystal.

Mae’n ddefnyddiol hefyd achos weithiau gall lefel dy iaith lafar Gymraeg di fod yn wahanol i dy lefel ysgrifenedig. Gall Prentis-Iaith roi’r wybodaeth yma i ti. Wedi i ti wneud y Cwis i ddod o hyd i dy lefel di, mynna gip ar y gwahanol lefelau isod i ddysgu mwy.

Two people talking in vector style

Pa lefel iaith ydw i?

I adnabod dy lefel dealltwriaeth iaith, bydd angen i ti gyflawni Cwis cyflym Prentis-Iaith ar wefan Porth.