Ymwybyddiaeth
About Lesson

Lle hAPus

Croeso i’r Lle hAPus! Dyma lle galli di ddod o hyd i wybodaeth am amrywiaeth o apiau defnyddiol i dy helpu gyda dy Gymraeg. Mae’r apiau wedi’u rhestru i weddu i’r lefel gallu iaith cyfatebol.

Nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am gynnwys apiau allanol.

 

Sgiliaith ap icon

Adborth Sgiliaith

Ap geirfa ddwyieithog Sgiliaith - ‘Ap Adborth Sgiliaith’ - Yn yr ap hwn ceir ystod eang o eiriau ac ymadroddion cyffredinol y gall tiwtoriaid eu defnyddio i roi adborth a phrofiadau Cymraeg/ dwyieithog i ddysgwyr.

Chwaraeon trwy'r Gymraeg app icon

Chwaraeon trwy’r Gymraeg

Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cymorth i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

Mae’r ap wedi’i rannu yn unedau defnyddiol -yn cynnwys termau ac ymadroddion cyffredinol a chategorïau mwy penodol fel ‘Y corff’ a ‘Ffitrwydd’.

Ap Geiriaduron app icon

Ap Geiriaduron

Mae’r ap hwn yn cynnwys y geiriadur cyffredinol Cysgair, a hefyd y geiriaduron termau safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, Y Termiadur Addysg. Hefyd ar gyfer prifysgolion Cymru, ceir Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r geiriaduron hyn i gyd yn rhai Saesneg-Cymraeg/Cymraeg-Saesneg all-lein, lle nad oes angen cysylltiad rhyngrwyd i’w defnyddio.

Google Play iconApple App Store iconAmazon App Store Icon

Gofalu trwy'r Gymraeg app icon

Gofalu trwy’r Gymraeg

Mae’r ap yn cynnwys termau ac ymadroddion yn benodol ar gyfer nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymdeithasol, meddygon, ymwelwyr iechyd, gweithwyr gofal, parafeddygon, gwaedyddion a ffisiotherapyddion.

Ei fwriad yw helpu unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u cleifion.

Ap Geiriaduron app icon

Fferm Ddiogel

Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. 

Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon gyrru ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw.

Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny.

Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig.

Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg.

Google Play iconApple App Store icon

Say Something in Welsh app icon

Say Something in

Dyma ap i dy helpu i ddysgu siarad Cymraeg naturiol yn hawdd ac yn gyflym. Yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes dysgu ieithoedd. Mae ap Say Something in Welsh yn dy helpu i siarad ac i ddeall Cymraeg o’r cychwyn cyntaf, heb reolau gramadeg cymhleth. Mae gan bob un 16-25 oed sy'n dilyn cwrs Dysgu Cymraeg y cyfle i ddilyn adnodd Say Something in Welsh yn rhad ac am ddim am 12 mis.

Google Play icon

Ap Geiriaduron app icon

BBC Cymru Fyw

Platfform iaith newyddion a chyfryngau iaith Gymraeg yw BBC Cymru Fyw sy’n cynnig gwybodaeth gyfredol ar faterion cyfoes, diwylliant, chwaraeon ac adloniant. Mae’n adnodd gwych i ddysgwyr a siaradwyr rhugl fel ei gilydd, gan alluogi defnyddwyr i ymdrochi eu hunan yn yr iaith. Mae’r wefan a’r ap yn darparu erthyglau, fideos a chlipiau radio sy’n dangos defnydd naturiol o’r iaith mewn sefyllfaoedd bob dydd. Mae darllen a gwrando ar straeon newyddion yn y Gymraeg yn galluogi i ddysgwyr ehangu eu geirfa, gwella eu dealltwriaeth a chynyddu eu hyder. Mae BBC Cymru Fyw hefyd yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru gan roi mewnwelediad i gymunedau a digwyddiadau lleol. Mae’n declyn gwerthfawr, dibynadwy a hygyrch i ddysgu ac ymarfer Cymraeg.

Google Play iconApple App Store icon

Ap Geiriaduron app icon

Memrise

Mae Memrise yn ap dysgu iaith rhyngweithiol sy’n cynorthwyo defnyddwyr i ddysgu Cymraeg trwy wersi rhyngweithiol, fideos ac enghreifftiau byd go iawn. Mae’n canolbwyntio ar wrando, siarad, darllen a sgiliau ysgrifennu mewn ffordd hwyliog ac ysbrydoledig. Mae’r ap yn defnyddio techneg o ailadrodd wedi’i wasgaru a chwisiau i gynorthwyo dysgwyr i gofio geirfa ac ymadroddion yn effeithiol. Mae fideos o siaradwyr brodorol yn caniatau i ddysgwyr glywed acenion ac ynganiadau naturiol gan gynyddu hyder a rhuglder. Mae gwersi byr Memrise yn ei gwneud hi’n rhwydd i ddysgu hyd yn oed ar ddiwrnodau prysur, ac mae’r ffaith bod yr ap wedi’i adeiladu ar ffurf gem yn cadw defnyddwyr wedi’i hysgogi. Mae’n declyn gwych i ddysgu Cymraeg ar liwt eich hun, o lefel dechreuwr i lefel hyfedredd.

Google Play iconApple App Store icon

Gwasnaethau trwy'r Gymraeg app icon

Gwasanaethu trwy’r Gymraeg

Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr a gweithwyr ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r cyhoedd.

Mae'r ap yn cynnwys clipiau sain o dermau a geirfa ddefnyddiol i helpu defnyddwyr gydag ynganu geirfa, ynghyd â chwisiau rhyngweithiol i brofi gwybodaeth.

GPC Geiriadur Welsh Dictionary app icon

GPC Geiriadur Welsh Dictionary

Mae'r ap hwn yn darparu diffiniadau o eiriau y chwiliwyd amdanynt yn y Gymraeg yn ogystal â'r cyfieithiadau Saesneg cyfatebol ac enghreifftiau o sut mae'r geiriau'n cael eu defnyddio. Mae hefyd yn cynnwys nifer o dermau a diffiniadau technegol.

Bydd yr ap yn gweithio all-lein, felly nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd arnat er mwyn ei ddefnyddio.

Amazon App Store Icon

Ap Sglein icon

Ap Sglein

Fersiwn ap o’r wefan Sglein Ar-lein yw hwn. Mae’r wefan a’r ap wedi’u creu ar gyfer dysgwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.

Mae'r ap yn cynnig profiadau a heriau gramadegol rhyngweithiol er mwyn gwella'ch sgiliau iaith Gymraeg.

Apple App Store icon