Awgrymiadau da
Yma cei di awgrymiadau da ynghylch sut i weithio yn Gymraeg gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg. O sut i newid rhyngwyneb iaith, i ddysgu mwy ynghylch sut i greu cwis dwyieithog. Mae yna ‘awgrym da’ i dy helpu di.
Nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am gynnwys adnoddau a gwefannau allanol.

Creu rhestr chwarae dwyieithog ar Hwb
Mae gan bob Coleg yng Nghymru fewngofnodi deuol i’w galluogi i gael mynediad i Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru. Yn gyntaf, rhaid mewngofnodi i fewnrwyd dy Goleg. Wedyn dod o hyd i Hwb. Clicia ar yr eicon ac wedyn bydd y wefan yn agor a byddi di wedi mewngofnodi'n awtomatig.
Mae modd creu rhestr chwarae (playlist) dwyieithog yn hwylus ar Hwb. Dyma gyfarwyddiadau defnyddiol ar y wefan i dy helpu i wneud hynny.

Creu ffurflenni dwyieithog yn Microsoft
Wyt ti wedi meddwl am greu cwis dwyieithog? Un ffurflen ar gyfer pawb, gyda’r dysgwr yn gallu darllen ac ysgrifennu yn ei iaith gyntaf? Syniad gwych!
Mae defnyddio’r Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr yn golygu dy fod yn hybu dwyieithrwydd.
Os nad wyt ti’n hyderus i ysgrifennu'n Gymraeg, defnyddia Bing Translator fel canllaw.

Newid iaith isdeitlau yn YouTube
Wyt ti’n defnyddio YouTube wrth ddysgu neu addysgu? Os yw perchennog fideo wedi darparu isdeitlau yn Gymraeg ar YouTube, mae’n hawdd dod o hyd i nhw.
Cer at y symbol gosodiadau ar waelod y sgrin a dewis ‘Subtitles/CC’. Os oes yna isdeitlau Cymraeg wedi’u darparu, bydd modd i ti newid yr iaith i ‘Cymraeg’.
Mae modd cael is-deitlau Cymraeg sydd wedi'u cynhyrchu'n awtomatig ar fideos mewn ieithoedd eraill hefyd. Yn yr un ffordd â Microsoft Bing, nid yw'r cyfieithiad wastad yn berffaith ond gall fod yn gymorth i Gymreigio profiad dysgwyr pan yn dangos fideo Saesneg. Mae’r isdeitlau awtomatig Cymraeg ar gael ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith (desktop) yn unig.
Dysgu mwy trwy wylio fideo allanol Saesneg ar YouTube:

Newid y rhyngwyneb iaith (language interface) ar Windows a Mac
Wyt ti wedi meddwl am newid rhyngwyneb iaith dy declyn er mwyn gweld bob elfen yn Gymraeg? Mae'n hawdd. Cwpwl o gliciau a dyna ti!
Dyma ychydig o wybodaeth am sut i wneud hyn.Â

Creu cyflwyniad PowerPoint dwyieithog

Gloywi Iaith
Wyt ti’n gallu darllen ac ysgrifennu yn weddol yn y Gymraeg?
Efallai bod angen gloywi ychydig ar dy Gymraeg? Beth am ail edrych ar rai o egwyddorion yr iaith mewn ffordd hwylus?
Mynna gip ar yr adnodd defnyddiol hwn, Gloywi Iaith, ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gall fod yn ddefnyddiol i wirio dy adnoddau a chynlluniau gwersi yn Gymraeg.

Is-deitlau Cymraeg ar gyflwyniad PowerPoint

SwiftKey
Beth am gael bysellfwrdd sy’n deall Cymraeg? Un sy’n cynnig geiriau Cymraeg fel opsiwn ac wedi eu sillafu’n gywir? Mae Swiftkey yn gallu gwneud hyn oll.
Mynna gip ar wefan allanol Swiftkey i weld sut mae’n gweithio ar declynnau Apple a Google.

Newid Iaith golygu neu awduro yn Word i’r Gymraeg
Wyt ti wedi cael digon o deipio yn Gymraeg i fewn i Word a’r cwbl rwyt ti’n ei weld yw llinellau coch blêr? I wneud bywyd yn haws a chael gwared o’r llinellau coch, beth am droi ‘Word’ i’r Gymraeg?
Dyma gyfarwyddiadau ar wefan allanol Microsoft ynghylch sut i newid dy iaith golygu neu awduro.
Mae modd newid dy osodiadau iaith os wyt ti’n defnyddio Mac hefyd. Dyma ragor o wybodaeth.

Hollti'r sgrin
Mae hollti’r sgrin yn caniatáu ichi ddangos dwy ffenestr fyw ar y sgrin ar yr un pryd. Gellid dangos adnodd sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr i wneud cyflwyniad dwyieithog effeithiol a syml. Mae hollti’r sgrin yn ffordd syml o greu cyflwyniad dwyieithog os nad ydych chi'n hyderus i siarad Cymraeg.

Teipio llais a'r offeryn cyfieithu
Mae'r offeryn arddweud yn caniatáu ichi ysgrifennu cynnwys naill ai yn Microsoft Word neu Google Docs. Drwy gyfuno teipio llais â'r offeryn cyfieithu gallwch greu dogfennau dwyieithog yn gyflym. Bydd angen dyfais gyda meicroffon a chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy arnoch. Bydd yn gweithio ar ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur personol hefyd.





