Awgrymiadau da
Yma cei di awgrymiadau da ynghylch sut i weithio yn Gymraeg gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg. O sut i newid rhyngwyneb iaith, i ddysgu mwy ynghylch sut i greu cwis dwyieithog. Mae yna ‘awgrym da’ i dy helpu di.
Nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am gynnwys adnoddau a gwefannau allanol.

Is-deitlau Cymraeg ar gyflwyniad PowerPoint

Creu cyflwyniad PowerPoint dwyieithog

Newid iaith isdeitlau yn YouTube
Wyt ti’n defnyddio YouTube wrth ddysgu neu addysgu? Os yw perchennog fideo wedi darparu isdeitlau yn Gymraeg ar YouTube, mae’n hawdd dod o hyd i nhw.
Cer at y symbol gosodiadau ar waelod y sgrin a dewis ‘Subtitles/CC’. Os oes yna isdeitlau Cymraeg wedi’u darparu, bydd modd i ti newid yr iaith i ‘Cymraeg’.
Mae modd cael is-deitlau Cymraeg sydd wedi'u cynhyrchu'n awtomatig ar fideos mewn ieithoedd eraill hefyd. Yn yr un ffordd â Microsoft Bing, nid yw'r cyfieithiad wastad yn berffaith ond gall fod yn gymorth i Gymreigio profiad dysgwyr pan yn dangos fideo Saesneg. Mae’r isdeitlau awtomatig Cymraeg ar gael ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith (desktop) yn unig.
Dysgu mwy trwy wylio fideo allanol Saesneg ar YouTube:

Creu ffurflenni dwyieithog yn Microsoft
Wyt ti wedi meddwl am greu cwis dwyieithog? Un ffurflen ar gyfer pawb, gyda’r dysgwr yn gallu darllen ac ysgrifennu yn ei iaith gyntaf? Syniad gwych!
Mae defnyddio’r Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr yn golygu dy fod yn hybu dwyieithrwydd.
Os nad wyt ti’n hyderus i ysgrifennu'n Gymraeg, defnyddia Bing Translator fel canllaw.

Hollti'r sgrin
Mae hollti’r sgrin yn caniatáu ichi ddangos dwy ffenestr fyw ar y sgrin ar yr un pryd. Gellid dangos adnodd sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr i wneud cyflwyniad dwyieithog effeithiol a syml. Mae hollti’r sgrin yn ffordd syml o greu cyflwyniad dwyieithog os nad ydych chi'n hyderus i siarad Cymraeg.

Creu rhestr chwarae dwyieithog ar Hwb
Mae gan bob Coleg yng Nghymru fewngofnodi deuol i’w galluogi i gael mynediad i Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru. Yn gyntaf, rhaid mewngofnodi i fewnrwyd dy Goleg. Wedyn dod o hyd i Hwb. Clicia ar yr eicon ac wedyn bydd y wefan yn agor a byddi di wedi mewngofnodi'n awtomatig.
Mae modd creu rhestr chwarae (playlist) dwyieithog yn hwylus ar Hwb. Dyma gyfarwyddiadau defnyddiol ar y wefan i dy helpu i wneud hynny.

Teipio llais a'r offeryn cyfieithu
Mae'r offeryn arddweud yn caniatáu ichi ysgrifennu cynnwys naill ai yn Microsoft Word neu Google Docs. Drwy gyfuno teipio llais â'r offeryn cyfieithu gallwch greu dogfennau dwyieithog yn gyflym. Bydd angen dyfais gyda meicroffon a chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy arnoch. Bydd yn gweithio ar ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur personol hefyd.





