Adnoddau defnyddiol
Croeso i’r adran Adnoddau Defnyddiol. Dyma lle cei di wybodaeth am nifer o raglenni ac adnoddau defnyddiol i dy helpu gyda dy waith yn Gymraeg.
Nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am gynnwys adnoddau a gwefannau allanol.

Byd Term Cymru
Wyt ti’n dysgu pwnc sydd â thermau technegol ac yn methu cael gafael ar y gair iawn yn Gymraeg?
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu bas data ar-lein a all helpu.
Mynd ar y wefan Byd Term Cymru i ddarganfod mwy.

Microsoft Bing Translator
Wyt ti eisiau cyfieithu darn o waith? Neu am gael sgwrs yn Gymraeg gyda rhywun sy’n rhugl yn yr iaith? Mae Microsoft Bing Translator ar-lein yn gallu helpu. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r teclyn cyfieithu yma hefyd.
Rho gynnig ar Bing Translator.
Cofia nad yw Bing Translator yn cyfieithu gystal â chyfieithydd go iawn. Canllaw yn unig ydyw a gall fod gwallau’n gallu cael eu cynnwys gan ei fod yn beiriant cyfieithu awtomatig.

Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach
Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd. Mae’r pecyn yn cynnwys: Llawlyfr - dogfen waith y gellir ei defnyddio i gyfeirio ati, yn ogystal ag i sefydlu targedau personol penodol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg/dwyieithog.

Cysgeir
Os wyt ti eisiau dod o hyd i air yn gyflym a ddim yn siŵr sut mae ei sillafu, defnyddia Cysgeir, adnodd galli di lwytho i lawr yn rhad ac am ddim.
Galli weld sut mae'n gweithio drwy wylio’r fideo defnyddiol yma ar wefan allanol Prifysgol Bangor.

Mae mwy o diwtorialau fideo ar wefan Prifysgol Bangor sy’n dangos rhagor o nodweddion defnyddiol mae Cysgeir a Cysill yn eu cynnig hefyd.

Geiriadur yr Academi
Mae yna nifer o eiriaduron ar gael i helpu pawb, beth bynnag eu lefel Cymraeg.
Mae Geiriadur yr Academi ar gael ar-lein ac fel llyfr. Mae’n cynnig cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Nid yw Geiriadur yr Academi yn cynnig cyfieithiadau o’r Gymraeg i’r Saesneg. Gall Geiriadur Ar-lein Bangor helpu gyda hyn.

Gwerddon
Mae Gwerddon yn gyfnodolyn mynediad agored sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd.
Gwylia ein fideo canllaw i ddysgu mwy ynghylch sut i’w ddefnyddio.

Y Termiadur Addysg
Wyt ti’n ysgrifennu asesiadau ac arholiadau? Neu wyt ti’n creu nodiadau mewn pynciau sy’n cael eu hasesu’n allanol?
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwefan ddefnyddiol sy’n darparu terminoleg safonol ar gyfer maes addysg.

Gwefan Termau'r Coleg Cymraeg
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig

To Bach
Mae'r Gymraeg yn hollol wahanol i'r Saesneg. Mae angen to bach neu acen ar nifer o’r llythrennau. Mae gosod rhain dy hun yn gallu cymryd amser. Bydd meddalwedd To Bach yn dy helpu i ysgrifennu'n fwy cywir drwy ei gwneud hi'n haws i ychwanegu to bach.

Esboniadur
Adnodd aml-ddisgyblaethol, agored ac ar-lein, a grëwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw’r Esboniadur. Galli di ddod o hyd iddo ar wefan Porth y Coleg.
Dyma gartref i gasgliadau o wybodaeth gyfeiriol ar amryw o bynciau.
Mae’r cofnodion yn gronfeydd o wybodaeth safonol, wedi’u llunio gan ddarlithwyr neu ôl-raddedigion y Coleg er mwyn hwyluso gwaith ymchwil gan fyfyrwyr.
Nawr rho gynnig ar yr Esboniadur ar wefan y Coleg Cymraeg.

Y Porth
Mae Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (porth.ac.uk) yn llyfrgell ar-lein ar gyfer adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau ac addysg uwch. Yma gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau sydd wedi’u datblygu gan y Coleg Cymraeg. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau gan y sefydliadau yr ydym yn cydweithio â nhw e.e. colegau addysg bellach, prifysgolion a Llywodraeth Cymru. Mae’r Porth yn cynnwys amrywiaeth eang o adnoddau, megis cyflwyniadau, fideos, cyrsiau byr a recordiadau o weminarau a chynadleddau. Ei nod yw rhannu adnoddau y gall athrawon a darlithwyr eu defnyddio i gefnogi dysgu ar y cyd. Mae’r adnoddau hefyd yn gallu cefnogi disgyblion ysgol, dysgwyr mewn colegau, prentisiaid a myfyrwyr prifysgol i barhau â’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.



